Sian Tesni yn ymuno â CBM UK

CYMRU | ENGLISH

Bookmark and Share

CBM UK yn ehangu ei phresenoldeb yng Nghymru drwy apwyntio Sian Tesni yn Drefnydd Cenedlaethol.

Sian Tesni

Drwy benodi Sian Tesni fel Trefnydd Cenedlaethol Cymru, mae CBM yn cael cyfoeth o wybodaeth a phrofiad o Addysg Arbennig a Gwasanaethau Gofal Clyw. Mae hi'n siarad Cymraeg ac yn dod yn wreiddiol o Geredigion.

Fel Trefnydd Cenedlaethol fe fydd hi'n gyfrifol am weithgareddau yng Nghymru, fel trefnu cyfarfodydd i gefnogwyr, cyfarfod â chorfforaethau mawr a gweithio gyda gwirfoddolwyr a grwpiau cyfeillion, gyda'r nod o hybu gweithgareddau codi arian.

Yn ogystal â gweithio yng Nghymru, bydd yn parhau gyda'i rôl ryngwladol o fewn CBM.

Cyn ymuno â swyddfa CBM UK, fe fu hi'n gweithio ym Mhapwa Gini Newydd am 7 mlynedd fel cydweithiwr ac yna yn Ne Asia am ddwy flynedd arall.

Mae Sian yn briod â Jasper ac mae ganddynt fab o'r enw Thomas-Arthur.

Os ydych am i Sian ddod i siarad gyda grŵp yn eich ardal chi, cysylltwch â hi ar bob cyfrif.

Gallwch gysylltu â Sian drwy e-bost ar siantesni@cbmuk.org.uk.

back to UK NEWS